Enghraifft o'r canlynol | type of musical group |
---|---|
Math | instrumental ensemble, wind orchestra |
Yn cynnwys | offeryn pres, offeryn taro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ensemble cerddorol sy'n cynnwys offerynnau pres ac offerynnau taro ydy band pres. Mae bandiau sy'n cynnwys offerynnau chwythbren yn dwyn yr enw band pres mewn sawl gwlad, ond ym Mhrydain, Awstralia, Seland Newydd, Gogledd America a'r rhan helaeth o Ewrop, mae'r term band pres yn disgrifio ensemble sy'n defnyddio offerynnau penodol.
Daeth y safoni offerynnau oherwydd pwysigrwydd cystadlu i fandiau pres, ddechreuodd yng nghanol y 19g. Erbyn dechrau'r 20g roedd gan y rhan fwyaf o fandiau yr un offerynnau oedd yn galluogi cyhoeddwyr i gyhoeddi cerddoriaeth oedd yn addas i holl fandiau pres[1].